Cartref y Prosiect Sgiliau TGP
Gofod cyfforddus a chroesawgar wedi’i greu y tu mewn i Y Lle sy’n cael ei adeiladu, ei arwain a’i reoli gan genedlaethau iau Casnewydd.
Mae'r ystafell fyw yn ofod i gwrdd, chwarae, dysgu, gweithio ac ymlacio. Gyda wifi am ddim, peiriant gwerthu enfawr wedi'i wneud â llaw, oriel wedi'i churadu i bobl ifanc, 'Nook' synhwyraidd a llawer mwy, ar ôl i chi ddod i'r ystafell fyw, ni fyddwch am adael. Yn agored i bob oed, mae'r ystafell fyw yn ofod yng nghanol y ddinas fel dim arall, felly galwch i mewn i gael paned.
Mae’r ystafell fyw wedi’i chreu gan dîm o bobl ifanc Academi Ieuenctid Casnewydd, gyda chefnogaeth greadigol Tin Shed Theatre Co a llu o artistiaid llawrydd a chrefftwyr Casnewydd.
Mae’r prosiect yn cael ei reoli a’i ariannu gan TGP Cymru a’r prosiect Sgliiau ac mae’n rhan o weledigaeth greadigol Tin Shed ar gyfer eu prosiect a ariennir gan Gyngor y Celfyddydau, The People Are The City.